Marciau llawn i’r Amlosgfa wedi arolygiad
Wedi ei gyhoeddi
Diweddarwyd diwethaf
Mae tîm Amlosgfa Gwent yn dathlu ar ôl cael marciau llawn mewn arolygiad diweddar.
Arolygwyd y safle gan Ffederasiwn yr Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA) ddechrau mis Gorffennaf.
Roedd yn cynnwys archwilio wyth maes allweddol gwahanol o ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredol, cydymffurfiaeth statudol a rheoleiddiol, ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, a safon y cyfleusterau.
Craffwyd ar dros 145 o bwyntiau o ddiddordeb yn ystod y broses.
Canfuwyd bod y cyfleuster yn gweithredu yn unol â'r 3 maes cydymffurfio allweddol sef:
- Rheoliadau Amlosgi 2008, gan gynnwys y diwygiad diweddaraf yn 2024 mewn perthynas â dogfennaeth statudol
- Nodiadau Cyfarwyddyd Proses Defra 5/2 (25), mewn perthynas ag amlosgi
- Y Cod Ymarfer Amlosgi, mewn perthynas â phob agwedd ar y gwasanaeth
Canfu’r arolygwyr hefyd fod lefel gyffredinol y gwasanaeth a ddarperir yn rhagorol, gyda nifer o'r meysydd allweddol yn sgorio 100 y cant o ran cydymffurfiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, aelod cabinet dros newid hinsawdd, gwastraff ac ailgylchu Cyngor Dinas Casnewydd:
''Rwyf wrth fy modd bod Amlosgfa Gwent wedi cyflawni canlyniad mor ragorol yn dilyn ei harolygiad.
Mae derbyn marciau llawn ar draws sawl maes a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r holl ofynion statudol a rheoliadol yn dangos proffesiynoldeb, ymroddiad a thosturi y tîm cyfan.
Mae'r amlosgfa'n darparu gwasanaeth hanfodol i deuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf yn eu bywydau, ac mae'n galonogol gwybod bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu i'r safonau uchaf un.”
O ganlyniad, mae'r safle wedi derbyn tystysgrif gydymffurfio, sy'n cydnabod ein hymrwymiad parhaus i gynnal safonau uchel.
Bydd ein harolygiad nesaf ymhen tair blynedd.