Cynnal gwobr y Faner Werdd

Wedi ei gyhoeddi

Diweddarwyd diwethaf

Mae Amlosgfa Gwent yn dathlu carreg filltir bwysig wrth iddi ennill statws Baner Werdd am y ddegfed flwyddyn yn olynol.

The gardens at Gwent Crematorium / Y gerddi yn Amlosgfa Gwent.

Cadarnhawyd y clod wrth i'r rhestr o safleoedd Baner Werdd ar gyfer 2026/27 gael ei chyhoeddi.

Rhoddodd arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd o’u hamser i feirniadu safleoedd ymgeisiol yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, aelod cabinet dros newid hinsawdd, gwastraff ac ailgylchu a Cyngor Dinas Casnewydd:

“Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i'n tîm mynwentydd am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i gynnal statws y Faner Werdd am y ddegfed flwyddyn yn olynol yn Amlosgfa Gwent.”

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud llawer o waith adnewyddu ar y safle dros y flwyddyn ddiwethaf, i gyd heb gyfaddawdu ar y gerddi a'r mannau gwyrdd eithriadol sydd yno, felly mae'n wych gweld hynny'n cael ei gydnabod unwaith eto”

Dywedodd Justin Norma, un o'n garddwyr yn yr amlosgfa:

“Mae derbyn statws Baner Werdd am y ddegfed flwyddyn yn olynol yn bwysig iawn. Mae cael cydnabyddiaeth am wneud gwaith da yn golygu cymaint, yn enwedig pan fydd cymaint o waith yn cael ei wneud i gynnal y safonau uchel mae ymwelwyr yn eu disgwyl.”

''Mae'r wobr hon yn helpu i gynnal cymhelliant ac yn ein hannog i barhau i chwilio am ffyrdd o wella'r gerddi, fel eu bod nhw’n parhau i fod yn lle heddychlon a chroesawgar sydd o fudd i'n holl ymwelwyr a'r teuluoedd rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Mae gwobrau'r Faner Werdd yn gynllun cenedlaethol y DU sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda.

Cyflwynir rhaglen gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.