Bydd gwaith adnewyddu hanfodol yn digwydd dros yr haf yn Amlosgfa Gwent.
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- adnewyddu'r capel yn llawn
- gosod amlosgydd newydd
- amnewid y gorchudd to’n llawn, a gosod paneli solar
Er mwyn caniatáu'r gwaith hwn, bydd angen cau’r amlosgfa dros dro a gwneud addasiadau i wasanaethau.
Bydd yr amlosgfa ar gau'n llwyr ar gyfer yr holl wasanaethau rhwng 7 a 20 Gorffennaf.
Rhwng 21 Gorffennaf a 17 Awst, bydd addasiadau i wasanaethau:
- Dydd Iau a dydd Gwener – bydd gwasanaethau llawn yn digwydd fel arfer
- Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher – byddwn ond yn cynnal gwasanaethau amlosgi uniongyrchol, heb eu goruchwylio
Am ymholiadau neu gymorth gydag archebu, cysylltwch â thîm yr amlosgfa ar 01633 839880.
Bydd yr ardd goffa, a'r llyfr coffa, yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd yn ystod y gwaith hwn.
Bydd y gwaith yn gwella ein cyfleusterau ac yn ein helpu i barhau i gynnig amgylchedd urddasol a pharchus i bawb.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni wneud y gwelliannau angenrheidiol hyn.